2016 Rhif 85 (Cy. 39)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau Safonau, Ymchwiliadau, Gollyngiadau ac Atgyfeirio) (Cymru) (Diwygio) 2016

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001 (2001/2283 (Cy. 172)) (“y Rheoliadau Pwyllgorau Safonau”), Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001 (2001/2281 (Cy. 171)) (“y Rheoliadau Swyddogaethau”), a Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 (2001/2279 (Cy. 169)) (“y Rheoliadau Gollyngiadau”) er mwyn gwneud newidiadau i’r modd y mae’r system sy’n llywodraethu ymddygiad aelodau yn gweithredu gyda’r nod o wella democratiaeth leol.

Mae rheoliad 2 yn diwygio’r Rheoliadau Pwyllgorau Safonau ac yn gwneud darpariaeth:

yn diwygio’r darpariaethau presennol er mwyn hwyluso gweithrediad cyd-bwyllgorau safonau;

yn diwygio’r darpariaethau presennol sy’n ymwneud â hyd cyfnod swydd aelodau o bwyllgorau safonau; ac

yn egluro bod awdurdod perthnasol wedi ei eithrio rhag sicrhau bod yr adroddiad neu’r argymhellion ar ymchwiliad ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt hyd nes y bydd trafodion camymddygiad wedi dod i ben.

Mae rheoliad 3 yn diwygio’r Rheoliadau Swyddogaethau ac yn cynnwys darpariaeth:

yn galluogi swyddog monitro a phwyllgor safonau un awdurdod i atgyfeirio adroddiad neu argymhellion y swyddog monitro i bwyllgor safonau awdurdod arall iddo ddyfarnu arnynt; a

yn manylu ar y weithdrefn ar gyfer apelio yn erbyn penderfyniad pwyllgor safonau.

Mae rheoliad 4 yn diwygio’r Rheoliadau Gollyngiadau er mwyn darparu gweithdrefn ar gyfer atgyfeirio cais aelod am ollyngiad i bwyllgor safonau awdurdod arall iddo ddyfarnu arno.

Dyma fanylion y darpariaethau—

Rheoliad 2

Cyd-bwyllgorau Safonau

Mae Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“Deddf 2000”) yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad ag ymddygiad aelodau a chyflogeion awdurdodau lleol.

Mae adran 53(1) o Ddeddf 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod perthnasol yng Nghymru, hynny yw, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, awdurdodau tân ac achub ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol ond nid, at y diben hwn, gynghorau cymuned, sefydlu pwyllgor safonau sydd i gael y swyddogaethau a roddir iddo gan neu o dan Ran III o Ddeddf 2000.

Diwygiodd Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (“Deddf 2013”) adran 53(1) o Ddeddf 2000 er mwyn galluogi dau awdurdod perthnasol neu ragor i sefydlu cyd-bwyllgor safonau.

Yn unol ag adran 53(11) o Ddeddf 2000, caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth, drwy reoliadau, ynghylch (ymhlith pethau eraill) maint, aelodaeth a thrafodion pwyllgorau safonau awdurdodau perthnasol yng Nghymru gan gynnwys cyd-bwyllgorau, ac unrhyw is-bwyllgorau a sefydlir o dan adrannau 54A neu 56 o Ddeddf 2000.

Mae rheoliad 2 yn diwygio’r Rheoliadau Pwyllgorau Safonau er mwyn hwyluso gweithrediad cyd-bwyllgorau safonau. Mae’n gwneud darpariaeth ar gyfer penodi aelodau pwyllgor cymunedol ac aelodau annibynnol i gyd-bwyllgor safonau; mae’n cyfyngu ar nifer yr aelodau gweithredol o gyd-bwyllgorau safonau; ac mae’n gwneud darpariaeth sy’n sicrhau bod swyddog monitro o un o’r awdurdodau perthnasol cyfansoddol yn bresennol ym mhob cyfarfod o gyd-bwyllgor safonau. Yn unol â’r diwygiadau yn rheoliad 2 caiff swyddogaethau pwyllgor safonau o fewn rheoliadau 13 i 17 o’r Rheoliadau Pwyllgorau Safonau gael eu cyflawni, yn achos cyd-bwyllgor safonau, gan unrhyw un o awdurdodau perthnasol cyfansoddol cyd-bwyllgor safonau.

Gwneir darpariaeth o fewn rheoliad 2 hefyd sy’n diwygio hyd cyfnod swydd aelodau o bwyllgorau safonau.

Cyhoeddi Adroddiadau Camymddygiad

Mae adran 51(1) o Ddeddf 2000 yn gosod dyletswydd ar yr holl awdurdodau perthnasol yng Nghymru i fabwysiadu cod sy’n pennu’r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan eu haelodau a’u haelodau cyfetholedig.

O dan adran 69 o Ddeddf 2000 caiff Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ymchwilio i unrhyw honiadau bod aelodau neu aelodau cyfetholedig (neu gyn aelodau neu gyn aelodau cyfetholedig) wedi torri cod ymddygiad awdurdod perthnasol yng Nghymru.

Pan fo Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn rhoi’r gorau i ymchwiliad o’r fath cyn iddo gael ei gwblhau (o dan adran 70(4) o Ddeddf 2000) caniateir atgyfeirio’r mater sy’n destun yr ymchwiliad i swyddog monitro yr awdurdod perthnasol.

Neu fel arall, pan fo Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn dyfarnu (o dan adran 71(2) o Ddeddf 2000) ei bod yn briodol i’r mater gael ei atgyfeirio i swyddog monitro yr awdurdod perthnasol, rhaid i’r Ombwdsmon lunio adroddiad ar ganlyniad yr ymchwiliad a’i anfon at y swyddog monitro ac at bwyllgor safonau yr awdurdod.

Mae rheoliad 2 yn gwneud darpariaeth i eithrio pwyllgor neu is-bwyllgor safonau rhag trefnu bod adroddiad neu argymhellion camymddygiad ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt hyd nes y bydd trafodion camymddygiad o dan y Rheoliadau Swyddogaethau wedi dod i ben. Mae’r rheoliad hefyd yn nodi’r digwyddiadau a fydd yn dynodi diwedd y trafodion ac yn sbarduno’r rhwymedigaeth i gyhoeddi’r deunyddiau cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

Rheoliad 3

Mae adran 73 o Ddeddf 2000 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n pennu sut i ymdrin â materion a atgyfeirir at swyddog monitro a phwyllgor safonau. Mae’r Rheoliadau Swyddogaethau yn nodi cyfrifoldebau’r swyddog monitro a’r pwyllgor safonau mewn perthynas ag ymchwiliad, llunio adroddiad a chanlyniad ymchwiliad.

Diwygiodd adran 69 o Ddeddf 2013 y pŵer i wneud rheoliadau yn adran 73 o Ddeddf 2000 er mwyn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth sy’n galluogi swyddog monitro neu bwyllgor safonau i atgyfeirio adroddiad neu argymhellion sy’n ymwneud ag ymchwiliad camymddygiad i bwyllgor safonau awdurdod perthnasol arall. Mae rheoliad 3 yn diwygio’r Rheoliadau Swyddogaethau er mwyn nodi’r weithdrefn sydd i’w dilyn wrth wneud atgyfeiriad o’r fath.

Mewn perthynas â hawl aelod i apelio yn erbyn penderfyniad pwyllgor safonau, mae rheoliad 3 yn darparu na all apêl fynd yn ei blaen oni bai bod llywydd Panel Dyfarnu Cymru, neu enwebai, wedi rhoi caniatâd i’r apêl fynd yn ei blaen yn gyntaf. Nodir y weithdrefn a’r amserlen sy’n gymwys i gais am ganiatâd i apelio o fewn y rheoliad hefyd.

Rheoliad 4

Mae rheoliad 4 yn diwygio’r Rheoliadau Gollyngiadau fel y gall cais am ollyngiad gan aelod gael ei atgyfeirio i bwyllgor safonau awdurdod perthnasol arall iddo ddyfarnu arno. Mae’r rheoliad hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer categori ychwanegol o ollyngiad cyffredinol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

 

 


 

2016 Rhif 85 (Cy. 39)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau Safonau, Ymchwiliadau, Gollyngiadau ac Atgyfeirio) (Cymru) (Diwygio) 2016

Gwnaed                                27 Ionawr 2016

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       2 Chwefror 2016

Yn dod i rym                             1 Ebrill 2016

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 53(11)([1]) a (12), 56(5), 73(1), 81(5)([2]), 105(1) a (2) a 106 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000([3]) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy([4]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau Safonau, Ymchwiliadau, Gollyngiadau ac Atgyfeirio) (Cymru) (Diwygio) 2016 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2016.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001

2.(1)(1) Mae Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001([5]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2 (dehongli)—

(a)     yn y diffiniad o “aelod pwyllgor cymunedol” (“community committee member”), ar ôl “awdurdod” mewnosoder “neu’r awdurdodau”;

(b)     yn lle’r diffiniad o “awdurdod tân” (“fire authority”) rhodder—

“ystyr “awdurdod tân ac achub” (“fire and rescue authority”) yw awdurdod tân ac achub a gyfansoddwyd drwy gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004([6]) neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo;”;

(c)     yn y diffiniad o “aelod annibynnol” (“independent member”), yn lle’r geiriau o “o’r awdurdod perthnasol” i “chyngor cymuned” rhodder “o awdurdod perthnasol na chyngor cymuned”;

(d)     yn y lle priodol mewnosoder—

“ystyr “cyd-bwyllgor” (“joint committee”) yw pwyllgor a sefydlir gan ddau awdurdod perthnasol neu ragor o dan adran 53(1)([7]) o Ddeddf 2000;”;

(e)     yn lle’r diffiniad o “aelod panel lleyg” (“lay panel member”), rhodder—

“ystyr “aelod panel lleyg” (“lay panel member”) yw aelod o banel a sefydlir o dan reoliad 15—

(a)   nad yw, ac nad yw wedi bod, yn aelod, yn aelod cyfetholedig nac yn swyddog o awdurdod perthnasol na chyngor cymuned, neu

(b)  nad yw’n briod nac yn bartner sifil i aelod neu swyddog o awdurdod perthnasol na chyngor cymuned;”;

(f)      yn lle’r diffiniad o “gweithrediaeth maer a chabinet” (“mayor and cabinet executive”), rhodder—

“ystyr “gweithrediaeth maer a chabinet” (“mayor and cabinet executive”) yw’r math o drefniadau gweithrediaeth a bennir yn adran 11(2) o Ddeddf 2000;”;

(g)     yn y diffiniad o “aelod” (“member”), ym mharagraff (b), yn lle “awdurdod tân” rhodder “awdurdod tân ac achub”;

(h)     yn y diffiniad o “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”), ym mharagraff (ch) yn lle “awdurdod tân” rhodder “awdurdod tân ac achub”;

(i)      yn y diffiniad o “is-bwyllgor adran 54A” (“section 54A sub-committee”), hepgorer y geiriau “awdurdod perthnasol”;

(j)      yn lle’r diffiniad o “pwyllgor safonau” (“standards committee”) rhodder—

“ystyr “pwyllgor safonau” (“standards committee”), oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, yw—

(a)   pwyllgor safonau awdurdod perthnasol;

(b)  cyd-bwyllgor;

(c)   is-bwyllgor adran 54A; neu

(ch) is-bwyllgor cymunedol;”.

(3) Yn rheoliad 4, ym mharagraff (a), ar ôl “awdurdod” mewnosoder “neu’r awdurdodau”.

(4) Yn rheoliad 8, ym mharagraff (3), yn lle “awdurdod tân” rhodder “awdurdod tân ac achub”.

(5) Yn lle rheoliad 9, rhodder—

9.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), pan fo awdurdod lleol yn gweithredu trefniadau gweithrediaeth ni chaiff pwyllgor safonau gynnwys mwy nag un aelod gweithredol o’r awdurdod hwnnw.

(2) Pan fo dau awdurdod lleol neu ragor wedi sefydlu cyd-bwyllgor, ni chaiff y pwyllgor hwnnw gynnwys mwy nag un aelod gweithredol o bob un awdurdod lleol cyfansoddol.”

(6) Yn rheoliad 10—

(a)     ym mharagraff (1)(a), ar ôl y gair “hwnnw” mewnosoder “neu yn achos cyd-bwyllgor, yn ardal yr awdurdodau lleol cyfansoddol”;

(b)     ym mharagraff (2), ar ôl “hwnnw” mewnosoder “neu, yn achos cyd-bwyllgor, gan ba un bynnag o awdurdodau lleol cyfansoddol y pwyllgor hwnnw y cytunir arno rhyngddynt”;

(c)     ym mharagraff (3)(a), ar ôl “ardal” mewnosoder “neu yn achos cyd-bwyllgor, ardaloedd cyfun yr awdurdodau cyfansoddol”.

(7) Cyn rheoliad 13, yn syth ar ôl y pennawd “Penodi aelodau annibynnol i bwyllgorau safonau”, mewnosoder—

12A.—(1) Yn rheoliadau 13 i 17 mae gofyniad ar awdurdod perthnasol neu weithred ganddo mewn cysylltiad ag ardal yr awdurdod hwnnw yn cynnwys, yn achos cyd-bwyllgor, ardaloedd cyfun awdurdodau cyfansoddol y pwyllgor hwnnw.

(2) Yn rheoliadau 13 i 17 caniateir i ofyniad ar awdurdod perthnasol gael ei gyflawni, yn achos cyd-bwyllgor, gan unrhyw un o’r awdurdodau lleol cyfansoddol.”

(8) Yn rheoliad 18—

(a)     yn lle paragraff (1) rhodder—

“(1) Rhaid i gyfnod swydd aelod o bwyllgor safonau awdurdod lleol sy’n aelod o’r awdurdod hwnnw beidio â bod yn hwy na’r cyfnod tan yr etholiadau llywodraeth leol cyffredin nesaf ar gyfer yr awdurdod hwnnw yn dilyn penodi’r aelod i’r pwyllgor.”;

(b)     ym mharagraff (2), ar y diwedd mewnosoder “neu, yn achos cyd-bwyllgor, o awdurdod lleol cyfansoddol o’r pwyllgor hwnnw”.

(9) Yn rheoliad 18A—

(a)     yn lle paragraff (1) rhodder—

“(1) Rhaid i gyfnod swydd aelod o bwyllgor safonau awdurdod lleol sy’n aelod pwyllgor cymunedol beidio â bod yn hwy na’r cyfnod tan yr etholiadau cyffredin nesaf ar gyfer y cyngor cymuned y mae’n aelod ohono yn dilyn ei benodi i’r pwyllgor safonau.”;

(b)     ym mharagraff (2), ar y diwedd mewnosoder “neu, yn achos cyd-bwyllgor, o awdurdod lleol cyfansoddol o’r pwyllgor hwnnw”.

(10) Yn rheoliad 19—

(a)     yn lle paragraff (1) rhodder—

“(1) Pan fo awdurdod perthnasol yn awdurdod Parc Cenedlaethol neu’n awdurdod tân ac achub, rhaid i gyfnod swydd aelod o bwyllgor safonau’r awdurdod hwnnw sy’n aelod o awdurdod o’r fath beidio â bod yn hwy na’r cyfnod tan y bydd yr aelod hwnnw yn peidio â bod yn aelod o’r awdurdod hwnnw.”;

(b)     ym mharagraff (2), ar y diwedd mewnosoder “neu, yn achos cyd-bwyllgor, o awdurdod perthnasol cyfansoddol o’r pwyllgor hwnnw”.

(11) Yn rheoliad 21—

(a)     yn lle paragraff (1) rhodder—

“(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) o reoliad 18 a pharagraff (2) o reoliad 19, caniateir i aelod o bwyllgor safonau awdurdod perthnasol sy’n aelod o’r awdurdod hwnnw, neu yn achos cyd-bwyllgor sy’n aelod o awdurdod cyfansoddol o’r pwyllgor hwnnw, gael ei ailbenodi am un tymor olynol pellach.”;

(b)     ym mharagraff (2), ar ôl “hwnnw” mewnosoder “neu, yn achos cyd-bwyllgor, gan ba un bynnag o’r awdurdodau perthnasol cyfansoddol y cytunir arno rhyngddynt,”.

(12) Yn rheoliad 21A—

(a)     ym mharagraff (1), ar ôl “hwnnw” mewnosoder “neu, yn achos cyd-bwyllgor, gan ba un bynnag o’r awdurdodau lleol cyfansoddol y cytunir arno rhyngddynt,”;

(b)     ym mharagraff (2)(a), ar ôl “ardal” mewnosoder “neu, yn achos cyd-bwyllgor, ardaloedd cyfun yr awdurdodau cyfansoddol”.

(13) Yn rheoliad 22, ar ddiwedd paragraff (8) mewnosoder “neu, yn achos cyd-bwyllgor, i swyddog priodol pa un bynnag o’r awdurdodau perthnasol cyfansoddol y cytunir arno rhyngddynt at y diben hwnnw”.

(14) Yn rheoliad 23, ym mharagraff (1), ar ôl “awdurdod” mewnosoder “neu’r awdurdodau”.

(15) Yn rheoliad 25, yn lle paragraff (3) rhodder—

“(3) Rhaid i swyddog monitro neu gynrychiolydd swyddog monitro awdurdod perthnasol, neu yn achos cyd-bwyllgor, swyddog monitro neu gynrychiolydd swyddog monitro awdurdod cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor hwnnw, fod yn bresennol ym mhob cyfarfod o’r pwyllgor safonau.”

(16) Yn rheoliad 26, ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

“(2A)(a) Yn ddarostyngedig i’r is-baragraffau a ganlyn, rhaid darllen adrannau 100B i 100D fel pe na baent yn ei gwneud yn ofynnol i bwyllgor safonau gyhoeddi, neu sicrhau eu bod ar gael i’r cyhoedd fel arall, agendâu, cofnodion, neu wybodaeth sy’n gysylltiedig â mater a atgyfeirir at ei bwyllgor safonau yn unol ag adran 70(4) neu (5) neu adran 71(2) neu (4) o Ddeddf 2000;

(b)  bydd yr eithriad i’r gofynion i ddarparu mynediad i agendâu ac adroddiadau y darperir ar ei gyfer yn is-baragraff (a) yn peidio â bod yn gymwys pan fo trafodion y pwyllgor safonau yn dod i ben;

(c)   yn is-baragraff (b) ystyr bod y trafodion yn dod i ben yw’r diweddaraf o’r digwyddiadau a ganlyn a bennir yn Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001([8]):

                        (i)  bod y cyfnod a ganiateir ar gyfer cyflwyno hysbysiad yn gofyn am ganiatâd i apelio o dan reoliad 10(2) yn dod i ben;

                      (ii)  ceir hysbysiad am benderfyniad llywydd Panel Dyfarnu Cymru neu aelod enwebedig o’r panel yn unol â rheoliad 10(9);

                     (iii)  ceir hysbysiad am gasgliad unrhyw apêl yn unol â rheoliad 12 (a)(i) neu (b); neu

                     (iv)  bod y pwyllgor safonau yn gwneud dyfarniad pellach ar ôl cael argymhelliad gan dribiwnlys apêl o dan reoliad 12(a)(ii);

(ch) rhaid i’r pwyllgor safonau gyhoeddi’r deunyddiau y mae is-baragraff (a) yn cyfeirio atynt cyn gynted ag y bo’n ymarferol bosibl ar ôl i’r trafodion ddod i ben.”

(17) Yn rheoliad 28, ym mharagraff (1), ar ôl “awdurdod perthnasol o dan sylw” mewnosoder “neu, yn achos cyd-bwyllgor, swyddog priodol awdurdod cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor hwnnw,”.

(18) Yn rheoliad 29 ar ôl “awdurdod perthnasol” yn y ddau le y mae’n digwydd mewnosoder “neu, yn achos cyd-bwyllgor, un o’r awdurdodau perthnasol cyfansoddol,”.

(19) Ar ôl rheoliad 30 mewnosoder—

Trefniadau trosiannol atodol

31. Caiff person sy’n aelod o bwyllgor safonau ar y dyddiad y mae Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau Safonau, Ymchwiliadau, Gollyngiadau ac Atgyfeirio) (Cymru) (Diwygio) 2016 yn dod i rym barhau yn ei swydd hyd ddyddiad yr etholiadau llywodraeth leol cyffredin nesaf, os yw’r awdurdod perthnasol yn penderfynu hynny, oni bai bod y person hwnnw yn peidio â bod yn aelod o’r awdurdod perthnasol o dan sylw cyn dyddiad yr etholiadau hynny.”

Diwygio Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001

3.(1)(1) Mae Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2 (dehongli) yn y lle priodol mewnosoder—

“ystyr “cyd-bwyllgor” (“joint committee”) yw pwyllgor a sefydlir gan ddau awdurdod perthnasol neu ragor o dan adran 53(1) o Ddeddf 2000;”;

“ystyr “is-bwyllgor adran 54A” (“section 54A sub-committee”) yw is-bwyllgor a benodir gan Bwyllgor Safonau o dan adran 54A(1) o Ddeddf 2000;”;

“ystyr “is-bwyllgor cymunedol” (“community sub-committee”) yw is-bwyllgor a benodir gan Bwyllgor Safonau awdurdod lleol o dan adran 56 o Ddeddf 2000;”;

“ystyr “Pwyllgor Safonau” (“Standards Committee”) yw—

(a)     Pwyllgor Safonau awdurdod perthnasol;

(b)     cyd-bwyllgor;

(c)     is-bwyllgor adran 54A; neu

(ch)  is-bwyllgor cymunedol;”.

(3) Yn rheoliad 3 (swyddogaethau swyddogion monitro) ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

“(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff swyddog monitro awdurdod perthnasol wneud trefniadau i lunio adroddiad, neu i wneud argymhellion, yn unol â pharagraffau (1)(b) a (2), i Bwyllgor Safonau awdurdod perthnasol arall.

(4) Ni chaiff swyddog monitro awdurdod perthnasol (“A”) wneud trefniadau o dan baragraff (3) i lunio adroddiad, neu i wneud argymhellion, i Bwyllgor Safonau awdurdod perthnasol arall (“B”) oni bai bod cadeirydd Pwyllgor Safonau A wedi rhoi cydsyniad ysgrifenedig i hynny.”

(4) Yn rheoliad 5 (cyfyngiadau ar ddatgelu gwybodaeth), ym mharagraff (1)—

(a)     ar ddiwedd is-baragraff (d) mewnosoder “neu”;

(b)     hepgorer is-baragraff (dd).

(5) Yn rheoliad 6 (adroddiadau), ar ddiwedd paragraff (a) mewnosoder “neu, yn unol â threfniadau a wneir o dan reoliad 3(3), i Bwyllgor Safonau awdurdod perthnasol arall”.

(6) Yn lle rheoliad 7 (swyddogaethau’r pwyllgor safonau) rhodder—

7.—(1) Ar ôl cael adroddiad ac unrhyw argymhellion oddi wrth swyddog monitro, neu adroddiad oddi wrth Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ynghyd ag unrhyw argymhellion gan swyddog monitro, rhaid i Bwyllgor Safonau ddyfarnu naill ai:

(a)   nad oes dim tystiolaeth o unrhyw fethiant i gydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod perthnasol o dan sylw a rhoi hysbysiad i’r perwyl hwnnw i:

                          (i)                   y person sy’n destun yr ymchwiliad;

                      (ii)  y person neu’r personau sy’n gwneud yr honiad a arweiniodd at yr ymchwiliad; a

                     (iii)  Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru; neu

(b)  bod rhaid i berson sy’n destun yr ymchwiliad gael ei wahodd i gyflwyno sylwadau, naill ai ar lafar neu’n ysgrifenedig, mewn perthynas â chasgliadau’r ymchwiliad ac unrhyw honiad ei fod wedi methu â chydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod perthnasol.

 (2) Caiff Pwyllgor Safonau wneud trefniadau i’r swyddogaethau a bennir ym mharagraff (1) gael eu harfer gan Bwyllgor Safonau awdurdod perthnasol arall.”

(7) Ar ôl rheoliad 7 (swyddogaethau’r pwyllgor safonau) mewnosoder—

Adroddiadau neu Argymhellion a atgyfeirir at Bwyllgor Safonau arall

7A.—(1) Pan fo swyddog monitro o dan reoliad 6 (adroddiadau) neu Bwyllgor Safonau o dan reoliad 7 (swyddogaethau’r Pwyllgor Safonau) yn gwneud trefniadau o dan reoliad 3(3) neu 7(2), rhaid i’r swyddog monitro neu’r Pwyllgor Safonau sy’n gwneud y trefniadau hynny roi’r hysbysiad a ddisgrifir ym mharagraff (2) i:

(a)   y person neu’r personau sy’n destun ymchwiliad;

(b)  y person neu’r personau sy’n gwneud yr honiad o gamymddygiad sy’n arwain at yr ymchwiliad; ac

(c)   Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

(2) Rhaid i’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) gynnwys y canlynol:

(a)   datganiad bod y mater wedi ei atgyfeirio i Bwyllgor Safonau awdurdod perthnasol arall iddo ddyfarnu arno;

(b)  enw’r awdurdod perthnasol arall; ac

(c)   y rheswm pam y mae’r mater wedi ei atgyfeirio i Bwyllgor Safonau yr awdurdod perthnasol arall.”

(8) Yn rheoliad 8 (gweithdrefn a phwerau pwyllgorau safonau)—

(a)     ym mharagraff (5), yn lle “o’r awdurdod perthnasol” rhodder “o awdurdod perthnasol”;

(b)     ym mharagraff (6), yn is-baragraff (b) hepgorer “neu (b)”.

(9) Yn rheoliad 9 (dyfarniadau’r pwyllgor safonau)—

(a)     ym mharagraff (1)—

                           (i)    yn is-baragraff (c), yn lle “o’r awdurdod perthnasol” rhodder “o awdurdod perthnasol”;

                         (ii)    yn is-baragraff (ch), ar ôl “chwe mis” mewnosoder “neu am weddill cyfnod y person hwnnw yn y swydd, os yw’n gyfnod byrrach”;

(b)     yn lle paragraff (3) rhodder—

“(3) Ar ôl gwneud dyfarniad yn unol â pharagraff (1) neu (2) rhaid i’r Pwyllgor Safonau hysbysu:

(a)   y person neu’r personau sy’n destun yr ymchwiliad;

(b)  y person neu’r personau sy’n gwneud yr honiad o gamymddygiad sy’n arwain at yr ymchwiliad;

(c)   Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru; ac

(ch) pan fo’r Pwyllgor Safonau wedi gwneud ei ddyfarniad yn unol â threfniadau â swyddog monitro neu Bwyllgor Safonau awdurdod perthnasol arall, Bwyllgor Safonau’r awdurdod hwnnw.”;

(c)     ar ôl paragraff (4) mewnosoder—

(5) Rhaid i hysbysiad a roddir o dan baragraffau (3) a (4) gynnwys y rhesymau dros y dyfarniad.”

(10) Yn rheoliad 10 (yr hawl i apelio)—

(a)     ym mharagraff (1), ar ôl “caiff y person hwnnw” mewnosoder “ofyn am ganiatâd i”;

(b)      ym mharagraff (2)—

                           (i)    yn lle “yr apêl;” rhodder “y cais am ganiatâd i apelio”;

                         (ii)    yn lle’r geiriau o “i’r cyfeiriad hwn” i “CF10 3NQ” rhodder “i lywydd Panel Dyfarnu Cymru”;

(c)     ym mharagraff (3)—

                           (i)    yn lle “hysbysiad apêl” yn y lle cyntaf y mae’n ymddangos rhodder “hysbysiad yn gofyn am ganiatâd i apelio”;

                         (ii)    yn lle is-baragraff (b) rhodder—

“(b) pa un a roddir caniatâd i apelio ai peidio, bod y person sy’n gofyn am ganiatâd i apelio yn cydsynio i’r apêl gael ei chynnal drwy gyfrwng sylwadau ysgrifenedig.”;

(d)     ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

“(4) Mae cais am ganiatâd i apelio i’w benderfynu gan lywydd Panel Dyfarnu Cymru neu gan aelod o’r panel a enwebir gan lywydd y Panel Dyfarnu i arfer y swyddogaeth hon.

(5) Oni bai bod y llywydd neu’r person a enwebir yn ystyried bod amgylchiadau neilltuol yn golygu bod gwrandawiad yn ddymunol, mae’r penderfyniad ynghylch a ddylid rhoi caniatâd i apelio i’w wneud heb i’r partïon fod yn bresennol.

(6) Caiff llywydd Panel Dyfarnu Cymru neu’r aelod enwebedig o’r panel wneud cais ysgrifenedig am wybodaeth bellach gan y partïon.

(7) Rhaid i’r wybodaeth bellach y gwneir cais amdani ym mharagraff (6) gael ei chyflwyno i lywydd Panel Dyfarnu Cymru neu i’r aelod enwebedig o’r panel o fewn cyfnod o 14 diwrnod i’r dyddiad y ceir y cais am wybodaeth bellach.

(8) Wrth benderfynu a ddylid rhoi caniatâd i apelio, rhaid i lywydd Panel Dyfarnu Cymru neu’r aelod enwebedig o’r panel roi sylw i ba un a oes gobaith rhesymol i’r apêl neu ran ohoni lwyddo.

(9) Rhaid i lywydd Panel Dyfarnu Cymru neu’r aelod enwebedig o’r panel benderfynu a ddylid rhoi caniatâd i apelio a rhoi hysbysiad am y penderfyniad yn ddim hwyrach na 21 diwrnod ar ôl cael y cais am ganiatâd i apelio, neu pan wnaed cais am wybodaeth bellach o dan baragraff (6), yn ddim hwyrach na 14 diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod a bennir ym mharagraff (7).

(10) Rhaid i lywydd Panel Dyfarnu Cymru neu’r aelod enwebedig o’r panel hysbysu’r canlynol am y penderfyniad ym mharagraff (8):

(a)   y person sy’n gofyn am ganiatâd i apelio;

(b)  Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru; ac

(c)   y Pwyllgor Safonau a wnaeth y dyfarniad sy’n destun y cais am ganiatâd i apelio.

(11) Os gwrthodir caniatâd i apelio rhaid i’r hysbysiad a roddir o dan baragraff (9) hefyd gynnwys y rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.

(12) Os rhoddir caniatâd i apelio rhaid i lywydd Panel Dyfarnu Cymru neu’r aelod enwebedig o’r panel atgyfeirio’r mater i dribiwnlys apelau.”.

(11) Yn rheoliad 11 (apelau), ym mharagraff (2)—

(a)     yn lle “y dirprwy lywydd” rhodder “aelod enwebedig o’r panel”;

(b)     yn lle “neu’r dirprwy lywydd” rhodder “neu’r aelod enwebedig o’r panel”.

Diwygio Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001

4.(1)(1) Mae Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001([9]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 1, ym mharagraff (3) yn y lle priodol mewnosoder—

“ystyr “cyd-bwyllgor” (“joint committee”) yw pwyllgor a sefydlir gan ddau awdurdod perthnasol neu ragor o dan adran 53(1) o’r Ddeddf;”;

“ystyr “is-bwyllgor adran 54A” (“section 54A sub-committee”) yw is-bwyllgor a benodir gan bwyllgor safonau o dan adran 54A(1) o’r Ddeddf”;

“ystyr “is-bwyllgor cymunedol” (“community sub-committee”) yw is-bwyllgor a benodir gan bwyllgor safonau awdurdod lleol o dan adran 56 o’r Ddeddf;”;

“ystyr “pwyllgor safonau” (“standards committee”) yw—

(a)     pwyllgor safonau awdurdod perthnasol;

(b)     cyd-bwyllgor;

(c)     is-bwyllgor adran 54A; neu

(ch) is-bwyllgor cymunedol;”.

(3) Yn rheoliad 2—

(a)     ar ddiwedd paragraff (f) hepgorer “neu”;

(b)     ym mharagraff (ff), yn lle’r geiriau sy’n dilyn “ei godi” rhodder “; neu”;

(c)     ar ôl paragraff (ff) mewnosoder—

                     “(g)  os yw’n ymddangos i’r pwyllgor ei bod yn briodol fel arall caniatáu gollyngiad.”

(4) Ar ôl rheoliad 2 mewnosoder—

“Gollyngiadau a ganiateir yn unol â rheoliad 2(g)

3.—(1) Rhaid i ollyngiad a ganiateir gan bwyllgor safonau awdurdod perthnasol o dan adran 81(4) o’r Ddeddf ar y seiliau a nodir yn rheoliad 2(g) ac sy’n parhau i gael effaith, gael ei adolygu gan y pwyllgor safonau unwaith ym mhob cyfnod o 12 mis o’r dyddiad y caniateir y gollyngiad am y tro cyntaf. 

(2) Pan fydd yn cynnal adolygiad o dan baragraff (1) rhaid i’r pwyllgor safonau ddyfarnu a ddylai’r gollyngiad barhau i gael effaith.

Gweithdrefn a phwerau pwyllgorau safonau

4.—(1) Caiff pwyllgor safonau awdurdod perthnasol atgyfeirio cais am ollyngiad a wneir gan aelod o’r awdurdod i bwyllgor safonau awdurdod perthnasol arall i’r pwyllgor hwnnw ei ystyried a dyfarnu arno.

(2) Caiff swyddog monitro awdurdod perthnasol y gwneir cais am ollyngiad iddo wneud trefniadau, gyda chydsyniad ysgrifenedig cadeirydd pwyllgor safonau yr awdurdod hwnnw ymlaen llaw, i bwyllgor safonau awdurdod perthnasol arall ei ystyried a dyfarnu arno.

(3) Pan fo ymdrechion rhesymol i gysylltu â chadeirydd pwyllgor safonau yr awdurdod perthnasol wedi bod yn aflwyddiannus, caiff is-gadeirydd y pwyllgor safonau roi cydsyniad o dan baragraff (2).

(4) Pan fo swyddog monitro neu bwyllgor safonau yn gwneud trefniadau i bwyllgor safonau awdurdod perthnasol arall ystyried cais am ollyngiad a dyfarnu arno, rhaid i’r swyddog monitro neu’r pwyllgor safonau sy’n gwneud y trefniadau hynny roi hysbysiad am hynny i’r person sy’n gwneud y cais.

(5) Rhaid i’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (4) gynnwys y canlynol—

(a)   datganiad bod y mater wedi ei atgyfeirio i bwyllgor safonau awdurdod perthnasol arall i’r pwyllgor hwnnw ei ystyried a dyfarnu arno;

(b)  enw’r awdurdod perthnasol arall; ac

(c)   y rheswm pam y mae’r cais wedi ei atgyfeirio i bwyllgor safonau yr awdurdod perthnasol arall.

(6) Pan fo’r pwyllgor safonau wedi dyfarnu ar y cais rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig am ei benderfyniad i’r canlynol—

(a)   yr aelod sy’n gwneud cais am y gollyngiad; a

(b)  pwyllgor safonau yr awdurdod perthnasol a atgyfeiriodd y cais.”

 

 

 

 

 

 

Leighton Andrews

Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru

27 Ionawr 2016

 



([1])   Rhoddodd adran 68(1) a (2)(c)(i) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4) y geiriau “Welsh Ministers” yn lle “National Assembly for Wales” yn adran 53(11) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p. 22) (“Deddf 2000”).

([2])   Rhoddodd adran 26 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20) (“Deddf 2011”), a pharagraffau 7 a 48(1) a (2) o Ran 1 o Atodlen 4 iddi, y geiriau “Welsh Ministers” yn lle “Secretary of State” yn adran 81(5) o Ddeddf 2000. Diddymwyd is-adran (8) o adran 81 o Ddeddf 2000 gan adran 26 o Ddeddf 2011, a pharagraffau 7 a 48(1) a (4) o Ran 1 o Atodlen 4 iddi, ac adran 237 o Ddeddf 2011 a Rhan 5 o Atodlen 25 iddi.

([3])   2000 p. 22.

([4])   Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adrannau 53, 56, 73, 81, 105 a 106 i Weinidogion Cymru o dan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

([5])   O.S. 2001/2283 (Cy. 172).

([6])   2004 (p. 21).

([7])   Diwygiwyd adran 53(1) gan adran 68(1) a (2)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4).

([8])   O.S. 2001/2281 (Cy. 171), fel y’i diwygiwyd gan y Rheoliadau hyn.

([9])   O.S. 2001/2279 (Cy. 169).